Beth wyt ti'n edrych am?
CGG BBC | Chwedlau a Chariad
Dyddiad(au)
11 Ion 2025
Amseroedd
15:00 - 16:45
Gwybodaeth am y Digwyddiad
HUDOLUS | TRAWIADOL | GWERINOL
Dechreuwch ar eich taith gerddorol y mis Ionawr hwn gyda The Cunning Little Vixen, y comedi drasig eithriadol o boblogaidd gan Janáček. Gydag adrannau pantomeim symffonig byr a bachog, wedi’u trefnu’n ddyfeisgar i roi eu motiff rhythmig eu hunain i bob cymeriad, mae’r gyfres werinol hon yn llawn harmoni toreithiog a naws sy’n frith o natur a chariad.
Mae’r chwaraewr soddgrwth hynod boblogaidd Laura van der Heijden yn dychwelyd i BBC NOW gyda pherfformiad o waith athletaidd a gwerinol Martinů, ond eto’n llawn mynegiant, sef y Concerto i’r Soddgrwth, cyn i’r arweinydd Antony Hermus droi’n feistr pypedau yn Petrushka gan Stravinsky. Mae Petrushka, y digrifwas gwrthryfelgar yn syrthio mewn cariad â Balerina sy’n syrthio mewn cariad â Mŵr yn y stori werin dynghedus hon, gyda’r pyped sy’n dawnsio ac yn ffustio yn ei anobaith yn cael ei weindio’n gelfydd gan rythm ac offeryniaeth ddyfeisgar Stravinsky.
Janáček The Cunning Little Vixen Cyfres
Martinů Concerto i’r Soddgrwth Rhif 1
Stravinsky Petrushka (fersiwn 1947)
–
Antony Hermus arweinydd
Laura van der Heijden soddgrwth