Beth wyt ti'n edrych am?
CGG BBC | Grace
Dyddiad(au)
21 Chwe 2025
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
YSBRYDOLEDIG | GWREIDDIOL | PERTHNASOL
Rydym yn parhau â’n cyfres Grace sy’n arddangos talent a menywod Cymru mewn cerddoriaeth y gwanwyn hwn gyda gweithiau gan Cecilia Darmström, Ninfea Cruttwell-Reade a Grace Williams, i gyd dan faton Emilia Hoving.
Gan fynegi effeithiau cynhesu byd-eang a chwymp ecosystemau hanesyddol, mae ICE Cecilia Darmström yn darlunio drwy gerddoriaeth y ddaear yn brwydro am ei bodolaeth, a sut y gallem weindio’r broses hon yn ôl. Bydd Concerto i’r Piano gan y cyfansoddwr o Brydain, Ninfea Cruttwell-Reade, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed gyda Clare Hammond, aelod rheolaidd o BBC NOW wrth y piano, cyn i ni droi at yr un a roes ei henw i’r gyfres, Grace Williams. Un o’i gweithiau cynharaf, a chredir mai dyma’r symffoni gyntaf i’w hysgrifennu erioed gan gyfansoddwr o Gymru, mae ei Symffoni Gyntaf ddramatig wedi’i hysbrydoli gan y rebel Cymreig o’r bymthegfed ganrif, Owain Glyndŵr.
Cecilia Darmström ICE [Premiere DU]
Ninfea Cruttwell-Reade Concerto i’r Piano [premiere byd]
Grace Williams Symffoni Rhif 1
–
Emilia Hoving arweinydd
Clare Hammond piano