Neidio i'r prif gynnwys

CGG BBC | Gwychder Gwyllt

Dyddiad(au)

20 Maw 2025

Amseroedd

19:30 - 22:15

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

TANLLYD | CYNHYRFUS | CYFOETHOG

Mae alawon lled-fyrfyfyr yn plethu â chyfeiliant rhythmig, gan ein hatgoffa o ganeuon gwerin yn cael eu canu â’r delyn yn Penillion Grace Williams. Mae telynegiaeth fyfyriol yn troi’n ddawnsiau tanllyd, cyffrous yn yr agoriad cyngerdd hudolus hwn, dan arweiniad ein Harweinydd Llawryfog poblogaidd, Tadaaki Otaka.

Mae alaw esgynnol, gwagymffrost hynod, a meistrolaeth andros o anodd yn disgleirio yng Nghoncerto angerddol Bruch i’r Ffidil. O dân gwyllt yr unawdydd i’w gefndir cerddorfaol cyfoethog, does dim rhyfedd bod y concerto hwn yn dal yn ffefryn gydag unawdwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, ac i berfformio, mae’n bleser gennym groesawu’n ôl feistr ar y ffidil, sef Eldbjørg Hemsing. Yn yr un modd, mae Trydedd Symffoni Rachmaninov yn un angerddol – mae uchafbwyntiau trawiadol yn ildio i unawdau dwys, gorymdeithiau grymus a dathlu taranllyd, i gyd yn seiliedig ar un motiff cerddorol wedi’i drawsnewid a’i ddatblygu’n fedrus drwyddi draw.

Grace Williams Penillion

Bruch Concerto i’r Ffidil Rhif 1

Rachmaninov Symffoni Rhif 3

Tadaaki Otaka arweinydd

Eldbjørg Hemsing ffidil