Neidio i'r prif gynnwys

CGG BBC | Rhamantwyr Cain

Dyddiad(au)

03 Ebr 2025

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

RHAMANTUS | CAIN | EICONIG

Mae Agorawd rhamantus a hyfryd Fanny Mendelssohn yn gosod yr awyrgylch ar gyfer y cyngerdd hwn o ffefrynnau clasurol. Mae alawon rhapsodïaidd gydag acenion pizzicato yn arwain y ffordd tuag at feistrolaeth a brafado Prydeinig yng Nghoncerto poblogaidd Elgar i’r Soddgrwth, er nad yw ei sarugrwydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf byth yn bell o’r wyneb, gyda themâu cadarn ond moel, egni sionc a rhinweddau myfyriol. Fel unawdydd, rydyn ni’n croesawu un sy’n perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW, y chwaraewr soddgrwth sydd wedi ennill sawl gwobr, Bryan Cheng.

Yn waith anferthol sy’n llawn grym ac angerdd aruthrol, mae symffoni olaf Brahms, a’i symffoni fwyaf mae’n debyg, sef ei bedwaredd, yn cyfleu harddwch, mawredd ac emosiwn aruthrol, ac mae’n bleser gennym groesawu i’r podiwm yr arweinydd o Brasil, Simone Menezes, sydd â’i gwreiddiau yn yr Eidal, ar gyfer ei pherfformiad cyntaf gyda BBC NOW.

Fanny Mendelssohn Overture

Elgar Cello Concerto

Brahms Symffoni Rhif 4

Simone Menezes arweinydd

Bryan Cheng soddgrwth