Neidio i'r prif gynnwys

Cherry Town, Moscow

Dyddiad(au)

09 Hyd 2022

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bloc wrth floc, caiff ffordd o fyw newydd ei ffurfio

Gadewir yr Hen Foscow ar ôl pan gaiff datblygiad tai uchel eu hadeiladu, gan addo dyfodol disglair, newydd i griw o ffrindiau sy’n dioddef yn sgil prinder tai yn y ddinas. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys.

Wedi’u rhwygo rhwng eu dyhead am y dyfeisiau diweddaraf a’u cariad tuag at yr hen Foscow, caiff perthnasau eu rhoi ar brawf, a datgelir llygredigaeth. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn o’r cyfnod ar ôl Stalin, mae’r comedi cerddorol ysgafn hon, a berfformir gan Opera Ieuenctid clodwiw WNO, yn cynnwys corysau bywiog, caneuon ac ensemblau bachog, dilyniant o waltsiau a pholcas wedi’i thrwytho â dylanwadau jas, mewn darn hynod ddifyr a fydd yn eich gadael yn cwestiynu reality am byth.

#WNOcherrytown

Perfformiadau er cof David a Philippa Seligman

Sul 9 Hyd – 3pm
Sul 9 Hyd – 7pm

Dyddiadau'r Digwyddiad

09Hyd - 15:00 Cherry Town, Moscow
09Hyd - 19:00 Cherry Town, Moscow