Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Nadolig yn y Spiegeltent: The Christmas Cracker

Dyddiad(au)

02 Rhag 2023

Lleoliad

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

GŴYL NADOLIG CAERDYDD YN Y SPIEGELTENT

Mae Gŵyl Nadolig Caerdydd yn atyniad adloniant trawiadol newydd sy’n cael ei lwyfannu y tu fewn i leoliad unigryw ar dir Gerddi Sophia. Yn atyniad unigryw arall ar gyfer Tymor Nadolig Caerdydd, bydd pedair sioe anhygoel yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Byddant yn cael eu perfformio o fewn cylch, yn y Spiegeltent, sydd â 570 o seddi, a byddant yn mynd ag ymwelwyr ar daith hudolus ac atgofus.

BETH YW SPIEGELENT?

Spiegeltent Ewropeaidd (neu ddrychau hud) yw’r cabaret a’r salon cerddoriaeth eithaf. Mae’n bafiliwn wedi’i naddu â llaw a ddefnyddiwyd fel neuadd ddawns deithiol, salon adloniant Bohemaidd a phabell blasu gwin ers diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Roeddent yn arfer bod yn brif atyniad yn ffeiriau hwyl Gwlad Belg.

Mae’r babell wedi’i hadeiladu o bren, drychau wedi’u torri, cynfas, gwydr plwm, a manylir arno mewn brocêd melfed. Mae pob un yn unigryw gyda’i enw, personoliaeth ac arddull ei hun. Dim ond llond llaw o’r pebyll arbennig a chwedlonol hyn sydd ar ôl yn y byd ac mae The Fortuna, sy’n eiddo i’r cwmni Iseldiraidd Van Rosmalen, yn un o’r rhai harddaf, yn gartref i rai o berfformwyr a cherddorion gorau’r byd.

CRACER COMEDI NADOLIG

Archebwch nawr ar gyfer y Cracer Comedi yn cynnwys Raymond a Mr Timpkins Revue, o Britain’s Got Talent; Digrifwr Newydd y Flwyddyn y BBC 2021 a merch Burry Port Anna Thomas, a’r digrifwr gitâr Rob Deering; gyda mwy o berfformwyr i’w cyhoeddi…
Bydd ein digrifwyr coeth yn siŵr o’ch diddanu gyda’u jôcs ffraeth, parodïau cerddorol a giamocs gwarthus. P’un a ydych chi’n ffan o gomedi cerddorol, comedi digrifwyr neu gomedi sgetsys, bydd rhywbeth i chi yn y sioe arbennig hon sy’n codi arian at SHELTER Cymru ac a gefnogir gan HSBC UK.
Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i gael noson arbennig yn ein Fortuna Spiegeltent, ein lleoliad godidog yng Nghaerdydd y Nadolig hwn sy’n cyfuno cyfaredd a swyn ac ychydig o hud a lledrith.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.