Neidio i'r prif gynnwys

Cinio a Thirnodau Caerdydd

04 Ebr 2020 - 05 Rhag 2020

10:30 - 15:30

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r daith Cinio a Thirnodau Caerdydd yn cynnwys te a chacen, sesiynau blasu a chinio 2 gwrs blasus mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas canol y ddinas a Bae Caerdydd.

Mae ein holl leoliadau yn dirnodau ym mhrifddinas Cymru e.e. Gwesty’r Gyfnewidfa, Amgueddfa Cymru, Canolfan y Mileniwm.

Mae ein tywyswyr lleol yn cynnig taith unigryw o’r ddinas, ei phensaernïaeth, ei hanes a’i phobl. Byddwch yn dysgu bach o Gymraeg ar y daith hefyd!