Cwrs Rhaffau CoedLan

Dyddiad(au)

18 Gorff 2025 - 06 Med 2025

Lleoliad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dringwch, neidiwch, camwch a siglwch eich ffordd drwy’r coed fry uwchben adeiladau Sain Ffagan, cyn cymryd y wifren wib yn ôl i dir cadarn. Taclwch 18 rhwystr CoedLan, gan gynnwys y boncyff balans, y bont gam, y rhwydi cargo a’r wifren wib.

Mae’r cwrs yn costio £15 y pen am un daith lawn o gwmpas y cwrs, sy’n cynnwys gwifren wib 50m i orffen.