Neidio i'r prif gynnwys

David Hurn: Llun am Lun

30 Mai 2020 - 27 Med 2020

10:00 - 17:00

Lleoliad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd yr arddangosfa hon yn cyflwyno rhagor o uchafbwyntiau o Gasgliad David Hurn, a lluniau a gyfnewidiodd â’i gydweithwyr yng nghwmni Magnum yn bennaf.

Cafodd yr arddangosfa ei churadu gan Martin Parr yn 2017 i nodi pen-blwydd 70 Magnum Photos ac i ddathlu’r gymuned o ffotograffwyr y bu David Hurn yn rhan ohoni am 55 o flynyddoedd. Cafodd ei harddangos am y tro cyntaf yn Photo London ym mis Mai 2017 yna yn Sefydliad Martin Parr ym mis Mehefin 2018. Ers hynny mae’r gwaith wedi dychwelyd adref i Gaerdydd i gwblhau Casgliad David Hurn yn Amgueddfa Cymru.