Neidio i'r prif gynnwys

David Hurn: Swaps

Dyddiad(au)

23 Hyd 2021 - 29 Awst 2022

Lleoliad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd yr arddangosfa ffotograffiaeth hon yn cyflwyno rhagor o uchafbwyntiau o Gasgliad David Hurn, a lluniau a gyfnewidiodd â’i gydweithwyr yng nghwmni Magnum yn bennaf.

Trwy gydol ei yrfa fel ffotograffydd dogfennol ac aelod o Magnum Photos, mae Hurn wedi bod yn gasglwr ffotograffiaeth brwd. Yn ddiddorol, mae’n casglu ffotograffau trwy eu ffeirio.

Cafodd yr arddangosfa ei churadu gan Martin Parr yn 2017 i nodi pen-blwydd 70 Magnum Photos ac i ddathlu’r gymuned o ffotograffwyr y bu David Hurn yn rhan ohoni am 56 o flynyddoedd. Cafodd ei harddangos am y tro cyntaf yn Photo London ym mis Mai 2017 yna yn Sefydliad Martin Parr ym mis Mehefin 2018. Ers hynny mae’r gwaith wedi dychwelyd adref i Gaerdydd i gwblhau Casgliad David Hurn yn Amgueddfa Cymru.