Beth wyt ti'n edrych am?
David Suchet | Poirot and More: A Retrospective
Dyddiad(au)
10 Maw 2024
Amseroedd
14:30 - 16:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Rydyn ni’n gwahodd cynulleidfaoedd i gael profiad prin gydag un o actorion mwyaf poblogaidd a chyfareddol ein hoes.
Ymunwch â ni mewn sgwrs gyda’r dyn, yr actor a’i rolau amrywiol mewn digwyddiad unigryw. Wrth edrych yn ôl ar yrfa David, byddwch chi’n dyst i rai o’i berfformiadau mwyaf poblogaidd mewn golau newydd a phersonol.
Am dros 25 mlynedd, bu’n swyno’n miliynau o bobl ledled y byd fel ditectif Belgaidd trwsiadus Agatha Christie. Tu hwnt i Poirot, mae’r actor, sydd wedi ennill gwobr Emmy, wedi chwarae rolau eiconig fel Lady Bracknell, Cardinal Benelli a Freud. Mae David hefyd wedi perfformio ar lwyfannau’r byd yn dod ag enwogion llenyddol yn fyw, gan gynnwys Shakespeare, Wilde ac Albee.
Dewch i gwrdd â’r actor tu ôl i’r ditectif a’r wynebau amrywiol mae wedi’u chwarae ar y llwyfan a’r sgrin mewn gyrfa sydd wedi para dros bum degawd. Darganfyddwch pam mae David Suchet mor adnabyddus, nid yn unig am chwarae’r rôl, ond am fabwysiadu personoliaethau rhai o gymeriadau mwyaf diddorol y teledu, ffilm a theatr.
Mae Poirot and More: A Retrospective yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2024 am noson yn unig.