Beth wyt ti'n edrych am?
Disney’s Beauty & the Beast
Dyddiad(au)
09 Rhag 2021 - 15 Ion 2022
Amseroedd
14:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Disney yn falch o’ch gwahodd chi i fwynhau sioe gerdd fwyaf hudolus y byd, Beauty and the Beast, sy’n dod i Gaerdydd yn 2021.
Wedi’i hail ddehongli a’i chyfoethogi gyda’r datblygiadau theatraidd diweddaraf, daw’r sioe ysblennydd i’r llwyfan i’ch gwefreiddio’n llwyr…
Perfformiwyd Beauty and the Beast gan Disney am y tro cyntaf yn Broadway 26 blwyddyn yn ôl. Daw’r tîm creadigol gwreiddiol ynghyd unwaith eto gyda’r cynhyrchiad newydd yma, sy’n cyflwyno holl gerddoriaeth a geiriau cyfareddol Alan Menken, Howard Ashman a Tim Rice.
Canllaw Oed: Mae Beauty and the Beast yn argymelledig ar gyfer plant 6 oed ac yn hŷn.
Ni chaniateir mynediad i blant dan 3 oed.
Yn cynnwys goleadau strob.
Nodwch fod rhaid i blant dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.