Beth wyt ti'n edrych am?
Diwrnod Elvis yn y Bae
Gwybodaeth am y Digwyddiad
GŴYL ELVIS PORTHCAWL YN CYFLWYNO
DIWRNOD ELVIS YN Y BAE
SIOEAU
SIOE EMYNAU HWYLIOG ELVIS
Eglwys Norwyaidd | 11am
Ymunwch â Juan a’i westeion arbennig ar gyfer hoff gerddoriaeth Elvis yn awyrgylch clyd yr Eglwys Norwyaidd hardd. Sylwer, dim ond 80 o leoedd sydd ar gael yn y gynulleidfa ar gyfer y sioe hon. I brynu tocynnau, ewch i Fienta Tickets
ELVIS YN ACWSTIG
Eglwys Norwyaidd | 2.30pm
Bydd Ciarán a’i westeion yn perfformio setiau acwstig Elvis yn Eglwys Norwyaidd enwog Caerdydd. Sylwer, dim ond 80 o leoedd sydd ar gael yn y gynulleidfa ar gyfer y sioe hon. I brynu tocynnau, ewch i Fienta Tickets
TRIOLEG
Portland House | 7pm
Gyda Phafiliwn y Grand ar gau i’w ailddatblygu eleni, mae Gŵyl Elvis Porthcawl yn llwyfannu sioe chwedlonol y Drioleg yn yr eiconig Portland House ym Mae Caerdydd. Ymunwch â’r ETAs arobryn Michael Glaysher, Aaron Walker a Ciarán Houlihan wrth iddynt berfformio setiau o Sun Studio, sioe arbennig ’68 a blynyddoedd Elvis yn Vegas, i gyd gyda chefnogaeth y Graceland Band yn ogystal â Mills & Boone.
RHAGOR O WEITHGAREDDAU DRWY GYDOL Y DYDD
- ELVIS GIO – Giovanni’s yn y Bae – ETAs DI-BAID o 1pm tan yn HWYR
- ELVIS BHANGRA – Cyfuniad o Elvis a Bollywood – Portland House am 3pm
- TEITHIAU CWCH ELVIS O AMGYLCH Y BAE
- Cyfeillion Anifeiliaid Cymru – ‘Hound Dog’ â’r wisg orau – Roald Dahl Plass
- RAS HWYL ELVIS – er budd Struggles2Smiles