Beth wyt ti'n edrych am?
Drag Queen Wine Tasting
Dyddiad(au)
24 Med 2023
Amseroedd
15:30 - 17:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Rhowch gychwyn campus i’ch diwrnod gyda digwyddiad arbennig sy’n cynnwys gwin o safon, canu byw ardderchog a thamaid o hiwmor isel-ael.
Dan arweiniad y seren ryngwladol y mae pawb yn ei hanwybyddu, Vanity von Glow, a’r arbenigwraig gwin enwog, Beth Brickenden, dyma sesiwn blasu gwin tra gwahanol.
Yn dilyn rhediad anhygoel, tu hwnt o boblogaidd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni, mae Drag Queen Wine Tasting yn ôl.
Ymunwch â ni am brynhawn ardderchog o anrhefn fendigedig: bydd yna dri gwin blasus i’w flasu, cystadlaethau nodiadau blasu a chyfleoedd i forio canu rhwng bob gwin. Croeso cynnes i bob lefel o wybodaeth am win. Mae poeri neu lyncu yn gwbl opsiynol.