Neidio i'r prif gynnwys

Dragprov

Dyddiad(au)

23 Tach 2023

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Act ddwbl brenin a brenhines drag cerddorol yw DRAGPROV (fel y gwelwyd ar BBC News, yng Ngŵyl Glastonbury, yn The Guardian a rhestr ‘Top 10 LGBT shows to see in London’ y London Evening Standard) a fydd yn cyfansoddi medlai swynol o flaen eich llygaid.

Gan ddefnyddio eich awgrymiadau, bydd y pâr yma, sy’n cynnwys bachgen meddal annwyl (Christian Adore) a brenhines sosi (Eaton Messe), yn creu cabaret bywiog, o ganeuon Broadway i sgetshis a rapiau rhydd digymell.

Glamor RuPaul yn cwrdd â chomedi difyfyr yn debyg i ‘Whose Line Is It Anyway’. Gyda ffraethineb sydd mor siarp â’u colur, sbort a sbri ac atgofion a fydd yn para’n llawer hirach na gliter neithiwr. Am un noson yn unig yn Cabaret, rydyn ni’n cyflwyno: DRAGPROV.