Beth wyt ti'n edrych am?
Edward Scissorhands
Dyddiad(au)
19 Maw 2024 - 23 Maw 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae cynhyrchiad dawns hudol Matthew Bourne o Edward Scissorhands wedi ennill lle yng nghalonnau cynulleidfaoedd ledled y byd ers y perfformiad cyntaf yn 2005.
Yn seiliedig ar ffilm Tim Burton ac yn cynnwys cerddoriaeth brydferth Danny Elfman a Terry Davies, mae Bourne a’i gwmni New Adventures yn dychwelyd i’r stori ffraeth a theimladwy yma am fachgen anorffenedig yn cael ei adael ar ei ben ei hun mewn byd newydd rhyfedd.
Mewn castell ar ben bryn mae Edward yn byw; bachgen a gafodd ei greu gan ddyfeisiwr ecsentrig. Pan mae ei greawdwr yn marw, caiff ei adael ar ei ben ei hun ac yn anorffenedig, gyda sisyrnau fel dwylo, nes i fenyw garedig o’r dref ei wahodd i fyw gyda’i theulu maestrefol. A all Edward ddod o hyd i’w le yn y gymuned groesawgar sy’n ei chael hi’n anodd gweld heibio ei ymddangosiad hynod i’r diniweidrwydd ac addfwynder sydd tu fewn?