Neidio i'r prif gynnwys

Eliza Carthy & Jennifer Reid

Dyddiad(au)

06 Chwe 2025

Amseroedd

19:30 - 21:00

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Os oes un cerddor sy’n ymgorffori dynameg a bywiogrwydd yr adfywiad gwerin presennol yn Lloegr, Eliza Carthy MBE yw honno.

Fel merch i’r arwyr gwerin Martin Carthy a Norma Waterson, magwyd Eliza ym myd cerddoriaeth draddodiadol ac o oedran cynnar cafodd ei hyrwyddo gan John Peel, Andy Kershaw a Billy Bragg. Mae cerddoriaeth Eliza yn croesi ffiniau genre ac arddull yn ddiymdrech. Mae ei llais pwerus llawn arlliwiau, chwarae hynod o hardd ar y ffidil, a pherfformiadau hudolus wedi dylanwadu ar genhedlaeth gyfan o gerddorion ifanc. Wedi’i henwebu ddwywaith ar gyfer Gwobr Mercury, mae Eliza wedi perfformio a recordio ledled y byd gydag amrywiaeth eang o artistiaid sy’n cynnwys, Paul Weller, Rufus a Martha Wainwright, Patrick Wolf, a Jarvis Cocker.

O ran Jenn Reid, meddyliwch am ganeuon cynhyrfus ac areithio angerddol. Roedd aelodau’r dosbarth gweithiol yn creu cerddoriaeth fel pryfociad, ac mae hyn yn draddodiad y mae Reid yn ei barhau. Mae’n berfformwraig â thafodiaith Sir Gaerhirfryn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a baledi un ddalen o gyfnod Fictoraidd. Chwaraeodd Reid ran Barb yn nrama gyfnod y BBC The Gallows Pole, a gafodd ganmoliaeth fawr gan Shane Meadows, ac yn ddiweddar bu’n cefnogi Pulp a John Cooper Clarke.

£10 – £20