Beth wyt ti'n edrych am?
Elkie Brooks
Dyddiad(au)
12 Tach 2022
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymhell cyn diwedd ei sioe fyw a’r gymeradwyaeth gan bawb ar eu traed yn aml sy’n cyd-fynd â hynny, daw pwynt pan wna Elkie rywbeth mor anhygoel fel ei fod yn gadael ei chynulleidfa wedi’u swyno. Gallai fod yn fersiwn arbennig o emosiynol o un o’i baledi, yn blues lleisiol cryf neu’n nodyn hir sy’n nodweddiadol ohoni sy’n gadael y gynulleidfa wedi’u llesmeirio.
Bydd Elkie yn perfformio ei chaneuon mwyaf poblogaidd gan gynnwys Pearl’s A Singer, Lilac Wine, Fool (If You Think It’s Over), Don’t Cry Out Loud a No More The Fool yn ogystal â llawer mwy yn ymddangos ar ei halbwm poblogaidd diweddar ‘Elkie Brooks – Pearls – The Very Best Of’.