Neidio i'r prif gynnwys

Everybody’s Talking About Jamie

Dyddiad(au)

23 Hyd 2023 - 28 Hyd 2023

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn dilyn cyfnod o dair blynedd lwyddiannus yn y West End, taith o’r DU ac Iwerddon a werthodd allan a ffilm boblogaidd gan Amazon Studios, mae’r sioe gerdd arobryn Everybody’s Talking About Jamie yn dychwelyd i Gaerdydd.

Mae Jamie New yn un deg chwech oed ac yn byw ar stad cyngor yn Sheffield. Dydy Jamie ddim yn teimlo ei fod yn ffitio i mewn ac mae’n ofni am ei ddyfodol. Ond mae Jamie yn mynd i fod yn ddigon o ryfeddod. Gyda chefnogaeth ei fam gariadus wych a’i ffrindiau, mae Jamie yn goresgyn rhagfarn, yn curo’r bwlis ac yn camu allan o’r tywyllwch ac i mewn i’r goleuni.

Bydd y teulu cyfan yn mwynhau’r sioe gerdd syfrdanol hon – peidiwch â’i cholli! Gyda sgôr gwreiddiol o ganeuon pop cofiadwy gan arweinydd The Feeling, Dan Gillespie Sells a’r awdur Tom MacRae (Doctor Who), bydd pawb yn siarad am Jamie am flynyddoedd i ddod!

Un deg chwech: amser posibilrwydd. Amser i wireddu eich breuddwydion.

Dyddiadau'r Digwyddiad

23Hyd - 19:30 Everybody’s Talking About Jamie
24Hyd - 19:30 Everybody’s Talking About Jamie
25Hyd - 19:30 Everybody’s Talking About Jamie
26Hyd - 14:30 Everybody’s Talking About Jamie
26Hyd - 19:30 Everybody’s Talking About Jamie
27Hyd - 19:30 Everybody’s Talking About Jamie
28Hyd - 14:30 Everybody’s Talking About Jamie
28Hyd - 19:30 Everybody’s Talking About Jamie