Beth wyt ti'n edrych am?
Extra Time with Sue, Matt and Phil
Dyddiad(au)
26 Tach 2023
Amseroedd
19:30 - 21:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Sioe gwis chwaraeon fyw newydd sbon sy’n dod â Sue Barker, Matt Dawson a Phil Tufnell yn ôl ynghyd ar y llwyfan gyda gwesteion chwaraeon chwedlonol.
Er mawr hyfrydwch i gefnogwyr chwaraeon ledled gwledydd Prydain, mae Sue Barker, Matt Dawson a Phil Tufnell yn ôl yn fyw ar y llwyfan gyda fformat newydd o gwestiynau heriol, rhyngweithio cynulleidfaol bywiog, gemau, doniolwch a chast o westeion enwog o’r byd chwaraeon ar gyfer rowndiau difyr dros ben o Amser Ychwanegol gyda Sue, Matt & Phil.
Mae’r triawd poblogaidd, sy’n adnabyddus am gyflwyno cyfres deledu boblogaidd iawn y BBC, A Question of Sport, wedi ymuno â Simon Fielder Productions i greu sioe newydd a chyffrous a fydd yn swyno cynulleidfaoedd ar draws y DU yn ystod hydref 2023.
Gyda Sue wrth y llyw a Matt a Phil yn gapteiniaid tîm, Extra Time gyda Sue, Matt a Phil yw’r ffordd berffaith i gefnogwyr ailgysylltu â’u eiconau a mwynhau’r wefr o’u gweld yn fyw.
Delweddau clyweledol ar y sgrîn fawr, tynnu coes rhwng y timau, ‘charades’, chwarae ymhlith y gynulleidfa a bysedd ar y botwm. Gan chwarae i ennill, bydd Matt, Phil a’u cyd-aelodau tîm gwadd, dan lywyddiaeth fedrus yr hyfryd Sue, yn bendant yn rhoi noson wych a difyr i gynulleidfaoedd.
Cwrdd a Chyfarch – Digwyddiad yn dechrau am 6:30pm
Gwnewch eich noson Amser Ychwanegol yn arbennig iawn gyda’n cynnig VIP Cwrdd a Chyfarch unigryw.
Dyma gyfle i chi a’ch gwesteion gwrdd â Sue, Matt a Phil yn bersonol cyn eu gwylio’n fyw ar y llwyfan yn eu sioe newydd wych. Rhowch eich cwestiynau chwaraeon i’r sêr mewn derbyniad cyn y sioe unigryw, mwynhewch ddiod am ddim, rhaglen a llun gyda Sue, Matt a Phil yn gofrodd cyn yr adloniant gyda’r nos o’r seddi gorau yn y tŷ.