Neidio i'r prif gynnwys

Fantastically Great Women Who Changed the World

Dyddiad(au)

17 Ion 2024 - 21 Ion 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ga i eich sylw os gwelwch yn dda!!?

Mae’r sioe gerdd bop grymusol Fantastically Great Women Who Changed The World yn dod i Gaerdydd ym mis Ionawr!

Mae’r sioe gerdd ysbrydoledig yma, sy’n seiliedig ar y llyfr poblogaidd i blant gan berthynas i un o’r Swffragetiaid, Kate Pankhurst, ac wedi’i haddasu gan Chris Bush (Faustus: That Damned Woman, Headlong; Pericles, National Theatre; The Band Plays On, Sheffield Theatres), wedi cael ei chreu gan un o gynhyrchwyr SIX.

Ymunwch â’n harwres chwilfrydig Jade wrth iddi ddianc o’i dosbarth i gymryd cipolwg tu ôl i’r llen yn y Gallery of Greatness, sydd heb agor eto yn yr amgueddfa leol. Ar ei thaith mae’n synnu ei bod yn cwrdd â menywod anhygoel: Frida Kahlo, Rosa Parks, Amelia Earhart, Mary Seacole, Marie Curie ac Emmeline Pankhurst i enwi ond ychydig.

O archwilwyr i artistiaid, gwyddonwyr i ysbiwyr, dewch i glywed straeon rhai o famau, chwiorydd a merched cryfaf hanes; mae pob un ohonynt yn eiconau annibynnol a newidiodd y byd.

Mae’r dramodydd poblogaidd Chris Bush (Standing at the Sky’s Edge) a’r cyfansoddwr arobryn Miranda Cooper (Girls Aloud, Kylie Minogue) yn addasu llyfr lluniau llwyddiannus disgynnydd un o’r Swffragetiaid, Kate Pankhurst, gyda cherddoriaeth gan Miranda Cooper a Jennifer Decilveo (Miley Cyrus, Beth Ditto) a chyfarwyddyd gan Amy Hodge (Mr Gum and the Dancing Bear, National Theatre).

Mae FANTASTICALLY GREAT WOMEN WHO CHANGED THE WORLD yn sioe lwyfan newydd grymusol y bydd pawb sy’n barod i symud a theimlo emosiwn yn ei mwynhau, gyda chymeriadau a chaneuon arbennig!