Beth wyt ti'n edrych am?
FIM Speedway Grand Prix
Dyddiad(au)
02 Med 2023
Amseroedd
17:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae digwyddiad chwaraeon modur dan do mwyaf Prydain yn dychwelyd i Stadiwm Principality Caerdydd.
Mae’r FIM British SpeedwayGP yn dathlu ei 20fed ymweliad â phrifddinas Cymru ers iddo gael ei lansio yno yn 2001, a bydd un o ddigwyddiadau hanfodol speedway y byd yn 2023.
Prin yw’r synau gwell ym myd chwaraeon na phedwar peiriant SpeedwayGP 500cc yn mynd olwyn-wrth-olwyn dan do eiconig Stadiwm Principality, gyda bloedd y dorf a chyrn aer o’r stondinau yn drac cefn gwych.
Mae’r sêr Speedway Tony Rickardsson, Greg Hancock, Jason Crump, Nicki Pedersen, Chris Holder a Bartosz Zmarzlik yn rhai o’r beicwyr sydd wedi cyrraedd y podiwm yng Nghaerdydd, a sut y gallem anghofio’r arwr Prydeinig Chris Harris a oedd yn fuddugoliaethus yn 2007?
A gawn ni weld enillydd Prydeinig arall yn 2023? Ewch i Gaerdydd ar benwythnos sy’n cynnwys digwyddiadau SpeedwayGP a SGP2 – dwbl y rasio, dwbl y cyffro a dau ddiwrnod o wefr fythgofiadwy.