Beth wyt ti'n edrych am?
Gallifrey Cabaret
Dyddiad(au)
10 Tach 2023
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Neidiwch ar fwrdd TARDIS mwyaf cwiar gofod ac amser, am noson o ddrag a chabare cosmig, a’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan y sioe deledu orau yn y bydysawd – DOCTOR WHO.
Ar ein teithiau drwy’r fortecs, bydd drag sy’n treiddio pob dimensiwn, stand-yp stratosfferig, digon o fwrlésg i ddod â gwrid i fochau Cyberman, a storm daranllyd o sypreisys eraill!
Fel bob amser gyda’r Doctor – disgwyliwch yr annisgwyl…
Mae’r gwaith paratoi wedi’i wneud. Mae ein teclynnau fortecs wedi’u gwefru, mae ein sonics yn barod i gael eu sgriwdreifio. Rydyn ni’n mynd i ddinistrio’r llawr dawnsio, achos does dim un parti fel parti’r Brenin Amser. Mae’r dyfodol yma, ac mae’n ddyfodol cwiar!