Beth wyt ti'n edrych am?
Hannah Horton & Jazz Band
Dyddiad(au)
28 Chwe 2025
Amseroedd
20:00 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Hannah Horton yn artist sy’n mynd ei ffordd ei hunan.
Fel cyfansoddwr a sacsoffonydd arobryn wedi’i chefnogi gan Selmer, arweinydd band ac artist recordio llwyddiannus, mae ei thôn gref a chlir, synnwyr rhythmig pwerus a synnwyr cymhellol o alaw yn ei gwneud hi’n llais digamsyniol yn y byd cerddoriaeth.
Mae cydnabyddiaeth o’r byd cerddoriaeth wedi dod ar ffurf gwobrau, cefnogaeth a diplomâu, ond y ffordd mae cynulleidfaoedd yn ymateb i’w cherddoriaeth gadarnhaol a phersonol a gonestrwydd emosiynol ei fersiwn hygyrch a dymunol hi o jazz yw’r anrhydedd pwysicaf.
Mae cerddoriaeth Hannah bob amser yn blaenoriaethu alaw ac ymdeimlad o chwarëusrwydd i greu fersiwn personol iawn o jazz sydd wedi’i lywio gan gysylltiad cryf â ‘groove’. Mae atseiniau o rai o’i ffefrynnau fel Mark Lockheart a Tim Garland a chyfansoddwyr clasurol fel Gerald Finzi – ond yn y pen draw does neb arall sy’n swnio fel hi – Rebel Melodaidd..