Neidio i'r prif gynnwys

Hijinx Odyssey | HUMBUG!

Dyddiad(au)

23 Tach 2023 - 25 Tach 2023

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’n fis Tachwedd yn y ffatri humbug, ac mae gweithwyr Cwmni Danteithion Scrooge & Cratchit yn gweithio’n galed yn y rhuthr olaf at y Nadolig.

Fodd bynnag, mae pennaeth a pherchennog y ffatri, Tim Cratchit, wedi troi’n llym ac yn gwirioni â gwaith, ar ôl anghofio’r gwersi a roddwyd iddo gan ei hen ffrind a’i fentor, Ebenezer Scrooge.

Un noson, mae amrywiaeth liwgar o ysbrydion yn ymweld â Tim ar genhadaeth i newid ei bersbectif. A fydd taith drwy’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn llwyddo i ddod â llawenydd yn ôl i fywyd Tim?

Wedi’i berfformio gan gast cymysg o actorion anabl a rhai nad ydynt yn anabl, mae HUMBUG! yn ddilyniant hwyliog a myfyriol i chwedl glasurol Charles Dickens, A Christmas Carol.