Beth wyt ti'n edrych am?
House of Deviant After Dark: ‘Slay’ance
Dyddiad(au)
11 Tach 2023
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Helo ellyllon! Byddwch chi’n hapus y diawl pan fyddwch chi’n gweld beth sydd gan y Deviants i chi!
Ymunwch â ni am seans a fydd yn eich rhewi hyd at fêr yr esgyrn.
Sioe yn llawn death drops, meimio ysblennydd i ganeuon a threfnau dawnsio a fydd yn gwneud i chi ddweud “YASSS WITCH!”
Mynnwch eich tocynnau nawr i weld y Deviants yn cyflwyno sioe arswydus, sosi a steilus ar y rhedfa!
House of Deviant yw’r unig grŵp drag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers 2021 ac maen nhw’n brosiect a gynhyrchir ar y cyd yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag i archwilio hunan-barch ac ymreolaeth gydag oedolion ag anableddau dysgu, sydd fel arall yn cael anawsterau gyda materion fel ynysigrwydd cymdeithasol a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.