Beth wyt ti'n edrych am?
Hwyrnos: ANIFAIL
Dyddiad(au)
26 Mai 2022
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae nosweithiau Hwyrnos yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r diwedd – dewch i ymuno â’r parti!
Mae ein digwyddiadau hwyrnos ar gyfer oedolion yn ôl yn 2022, a’r tro hwn byddwn ni’n troi’n ANIFAIL yn y nos! Felly byddwch yn barod i wisgo i fyny, ac ymgolli mewn noson greadigol yn yr Amgueddfa.
Noson llawn cerddoriaeth, gemau, bwyd a diod i ddathlu agoriad arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, sy’n darlunio ein planed fregus.
Byddwch ymysg y cyntaf i weld yr arddangosfa sy’n cynnwys 100 o luniau wedi eu hôl-oleuo fydd yn tanio brwdfrydedd a chwilfrydedd drwy arddangos amrywiaeth a bregusrwydd bywyd gwyllt ein planed.