Neidio i'r prif gynnwys

I Should Be So Lucky

Dyddiad(au)

27 Tach 2023 - 02 Rhag 2023

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r briodas wedi’i CHANSLO. Ond mae’r mis mêl yn DIGWYDD!

Mae yma. Yr holl ganeuon o’r ‘Hit Factory’ rydych chi’n dwli arnyn nhw – ar y llwyfan o’r diwedd mewn sioe gerdd newydd sbon.

Teithiwch o’r eil i’r haul yn y sioe gerdd Stock Aitken Waterman swyddogol sy’n cynnwys trac sain cenhedlaeth gyda cherddoriaeth gan sêr y byd pop gan gynnwys Kylie Minogue (I Should Be So Lucky), Rick Astley (Never Gonna Give You Up), Jason Donovan (Especially for You), Bananarama (Love In The First Degree) a chymaint mwy, i gyd wedi’u gwau i mewn i’r stori wreiddiol yma.

Mae I Should Be So Lucky, sy’n ddoniol dros ben ac yn emosiynol, yn ymwneud â theulu, ffrindiau, cariad ac amseroedd gwych. Mae anthemau diderfyn, traciau pop poblogaidd a dilyniannau dawns disglair yn dod at ei gilydd gyda 10 cân a gyrhaeddodd Rhif 1 a dros 30 o ganeuon o’r ‘Hit Factory’ y gwnaeth ei gerddoriaeth ddiffinio oes. Caiff y tîm creadigol ei arwain gan seren y llwyfan a’r sgrin Debbie Isitt (cyfarwyddwr ac awdur y fasnachfraint lwyddiannus Nativity!) a Jason Gilkison (cyfarwyddwr creadigol Strictly Come Dancing a Eurovision 2023) a doniau cerddorol Stock Aitken Waterman.

Ella a Nathan, cwpl ifanc, dros eu pen a’u clustiau mewn cariad, ac ar fin cymryd cam mwyaf eu bywydau – priodi. Nes i bopeth fynd o’i le. A fyddan nhw gyda’i gilydd am byth, neu a fydd e’n gwneud iddi grio a dweud hwyl fawr?

Dyddiadau'r Digwyddiad

27Tach - 19:30 I Should Be So Lucky
28Tach - 19:30 I Should Be So Lucky
29Tach - 19:30 I Should Be So Lucky
30Tach - 14:30 I Should Be So Lucky
30Tach - 19:30 I Should Be So Lucky
01Rhag - 19:30 I Should Be So Lucky
02Rhag - 14:30 I Should Be So Lucky
02Rhag - 19:30 I Should Be So Lucky