Beth wyt ti'n edrych am?
Jesus Christ Superstar
Dyddiad(au)
29 Ion 2024 - 03 Chwe 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Albwm a ysbrydolodd chwyldro. Datguddiad a newidiodd y byd. Ailddyfeisiad ar gyfer y mileniwm yma.
Mae Timothy Sheader (Crazy for You, Into the Woods) yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad gafaelgar newydd yma o’r ffenomenon byd-eang eiconig, Jesus Christ Superstar, sy’n dod i Gaerdydd am wythnos yn unig.
Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol gan Regent’s Park Open Air Theatre yn Llundain, enillodd y cynhyrchiad yma wobr Olivier yn 2017 am ‘Best Musical Revival’, a chafodd adolygiadau ac anrhydeddau digynsail.
Wedi’i goreograffu gan Drew McOnie (King Kong, Strictly Ballroom), gyda cherddoriaeth a geiriau gan Andrew Lloyd Webber a Tim Rice, mae Jesus Christ Superstar wedi’i osod yn ystod cyfres eithriadol o ddigwyddiadau yn wythnosau olaf bywyd Iesu Grist, fel y gwelir drwy lygaid Jwdas. Gan adlewyrchu’r gwreiddiau roc a ddiffiniodd cenhedlaeth, mae’r sgôr yn cynnwys I Don’t Know How to Love Him, Gethsemane a Superstar.
Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y sioe gerdd wych, gyffrous a nefolaidd yma.