Neidio i'r prif gynnwys

Lewys Holt

Dyddiad(au)

19 Gorff 2024 - 20 Gorff 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Awr o gomedi lled-fyrfyfyr, sy’n plygu’r meddwl ac yn gwyro’r corff, gan y clown/dawnsiwr/digrifwr Lewys Holt. Bydd fflip-fflopio rhyfedd ar hyd y lle yn ysbrydoli Lewys i herio’u hunain a’u cynulleidfa, wrth iddyn nhw gynnig awr flasus o ddryswch ac afresymoldeb wedi’i chrefftio’n fedrus.

Mae’r artist o Gymru/Canada/Leeds, Lewys Holt, yn dod i Cabaret am y tro cyntaf, ond maen nhw’n hen law ar Ŵyl Cyrion Caeredin – ac rydyn ni’n falch o’u croesawu nhw i’n blwyddyn gyntaf o gynnal Penwythnos Rhag-ddangosiadau Caeredin.