Beth wyt ti'n edrych am?
Line Dancing Party with the Double Dollys
Dyddiad(au)
09 Tach 2023
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Howdi! Mae Dolly Parton wedi cael ei chlonio – achos roedd angen mwy o bositifrwydd, cariad a llawenydd ar y byd. Dwbwl yr hwyl, dwbwl y drafferth a dwbwl y glam!
Ymunwch â’r Double Dollys am noson o gomedi, dawnsio llinell a chaneuon Dolly Parton yn fyw.
Dewch â’ch ffrindiau, neu’ch Mam-gu, i ddawnsio a mwynhau’r noson allan gynhwysol yma (ond does dim croeso i Jolene).
Ewch ati i wisgo i fyny fel Dolly neu fel Cowboi os gallwch chi, achos mae gwobrau mawreddog i’w hennill.
Dyma’r lle i fod ar ôl i chi orffen eich ‘9 to 5’, felly disgleiriwch fel ‘diamond in a rhinestone world’, dewch am hwyl!
Rhowch i ni îîî-how?
Cynhyrchiad dawnsio llinell newydd hyfryd gyda Lisa Bond a Tracey Collins. Mae Tracey yn dychwelyd i fyd Cabaret yn dilyn sioeau bingo fel Audrey Heartburn, Elvis Lesley a Shell Suit Cher. Rydyn ni wrth ein boddau!