Neidio i'r prif gynnwys

Max Boyce: 50th Anniversary Concert

Dyddiad(au)

06 Hyd 2023 - 08 Hyd 2023

Amseroedd

Gweler isod am amseroedd

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ar ôl galw aruthrol, rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi y bydd Max Boyce yn perfformio cyngerdd na ddylid ei golli yn dathlu 50 mlynedd o ddiddanu.

Bydd Max yn perfformio detholiad o’i hoff ganeuon a hanesion, sydd wedi ennyn hoffter pobl o bob oed ers sawl cenhedlaeth.

Am y tro cyntaf, ar y daith hon bydd y diddanwr poblogaidd o Gymru yn perfformio fersiwn cerddorol o’i gerdd cyfnod clo When Just the Tide Went Out.

Ers rhyddhau’r gerdd yn 2020 mae wedi creu cyffro ar y rhyngrwyd, ac mae wedi cael ei gwylio bron i 8 miliwn o weithiau ar-lein. Cafodd ei dewis fel ‘Pick of the Week’ ar Radio 4 ac mae wedi’i chynnwys yn ei lyfr Hymns and Arias a gyrhaeddodd frig rhestr y gwerthwyr gorau.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y diddanwr ysbrydoledig yma y mae ei ganeuon a’i straeon wedi dod yn rhan o chwedloniaeth Cymru.

Dyddiadau'r Digwyddiad

06Hyd - 19:30 Max Boyce: 50th Anniversary Concert
08Hyd - 19:30 Max Boyce: 50th Anniversary Concert