Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Nadolig yn y Spiegeltent: My My! Abba

Dyddiad(au)

10 Rhag 2023

Lleoliad

Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9XR

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

GŴYL NADOLIG CAERDYDD YN Y SPIEGELTENT

Mae Gŵyl Nadolig Caerdydd yn atyniad adloniant trawiadol newydd sy’n cael ei lwyfannu y tu fewn i leoliad unigryw ar dir Gerddi Sophia. Yn atyniad unigryw arall ar gyfer Tymor Nadolig Caerdydd, bydd pedair sioe anhygoel yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Byddant yn cael eu perfformio o fewn cylch, yn y Spiegeltent, sydd â 570 o seddi, a byddant yn mynd ag ymwelwyr ar daith hudolus ac atgofus.

BETH YW SPIEGELTENT?

Mae Spiegeltent Ewropeaidd (neu ddrychau hud) yn salon cabaret a cherddoriaeth penigamp. Mae’n bafiliwn a ddefnyddir fel neuadd ddawns deithiol, yn salon adloniant Bohemaidd ac yn babell blasu gwin ers diwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Nhw oedd canolbwynt ffeiriau ysblennydd Gwlad Belg ar un adeg.

Mae’r babell wedi ei hadeiladu o bren, drychau, cynfas, gwydr lliw, a brocêd melfed. Mae pob un yn unigryw gyda’i enw, ei bersonoliaeth, a’i arddull ei hun. Dim ond llond llaw o’r pebyll arbennig a hanesyddol hyn sydd ar ôl yn y byd ac mae’r Fortuna, sy’n eiddo i gwmni o’r Iseldiroedd, Van Rosmalen, yn un o’r harddaf, ac wedi croesawu rhai o berfformwyr a cherddorion mwyaf blaenllaw’r byd.

MY MY! ABBA

Mae’r Cyngerdd Nadolig yn talu teyrnged i’r band gwreiddiol o Sweden drwy gyfleu ymdeimlad Abba o hwyl, drwy ail-greu eu sain unigryw anhygoel a chyfuno hyn i greu noson llawn hwyl o gyd-ganu a chyd-ddawnsio hudolus!

Yn cynnwys caneuon mor gofiadwy â Waterloo, Mamma Mia a Dancing Queen, mae’r cast gwych hwn o berfformwyr y West End yn sicr o fywiogi eich noson a’ch cadw i ddawnsio tan y bore!
Gyda chymysgedd o wisgoedd eiconig a chyfranogiad y gynulleidfa, dyma’r dathliad Nadolig perffaith o’r grŵp pop gorau erioed.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.