Beth wyt ti'n edrych am?
NUTCRACKER (The Alternative Cabaret)
Dyddiad(au)
03 Rhag 2024 - 31 Rhag 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Croeso i Le Crack – y clwb cabaret salw allwch chi ddim peidio â’i garu.
Cropiwch o dan y waliau a sgrialwch i mewn ar gyfer soiree o fwrlésg deniadol, perfformiadau awyr beiddgar, gwyrni plygu rhywedd a band tŷ a fydd yn gwneud i chi wichian mewn pleser. Wedi’i gyflwyno gan eich penarglwydd tanddaearol, llais y fermin – y Rat King!
Mentrwch i mewn os ydych chi’n meiddio. Dewch, rhowch eich teganau i lawr ac ymunwch â’r creaduriaid rhyfedd yng nghuddfan y Rat King…
Mae NUTCRACKER (the alternative cabaret) yn stori gariad gwiar a throad i oedolion ar glasur Nadoligaidd. Wedi’i gyfarwyddo gan Juliette Manon, gyda cherddoriaeth fyw wreiddiol gan Sam Roberts a Heledd Watkins o HMS Morris, a pherfformiadau tywyll pleserus gan Len Blanco, Diomede, Cadbury Parfait, Rotten Peach a Daisy Williams.
Yn seiliedig ar stori tylwyth teg wreiddiol E.T.A. Hoffmann o 1816 The Nutcracker and the Mouse King, bydd y profiad cabaret ymdrochol yma yn gwyrdroi normau ac yn myfyrio ar y da, y drwg a’r prydferth yn ein byd modern.
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Juliette Manon.