Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Nadolig yn y Spiegeltent: Welsh of the West End

Dyddiad(au)

17 Rhag 2023 - 18 Rhag 2023

Lleoliad

Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9XR

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

GŴYL NADOLIG CAERDYDD YN Y SPIEGELTENT

Mae Gŵyl Nadolig Caerdydd yn atyniad adloniant trawiadol newydd sy’n cael ei lwyfannu y tu fewn i leoliad unigryw ar dir Gerddi Sophia. Yn atyniad unigryw arall ar gyfer Tymor Nadolig Caerdydd, bydd pedair sioe anhygoel yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Byddant yn cael eu perfformio o fewn cylch, yn y Spiegeltent, sydd â 570 o seddi, a byddant yn mynd ag ymwelwyr ar daith hudolus ac atgofus.

BETH YW SPIEGELENT?

Spiegeltent Ewropeaidd (neu ddrychau hud) yw’r cabaret a’r salon cerddoriaeth eithaf. Mae’n bafiliwn wedi’i naddu â llaw a ddefnyddiwyd fel neuadd ddawns deithiol, salon adloniant Bohemaidd a phabell blasu gwin ers diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Roeddent yn arfer bod yn brif atyniad yn ffeiriau hwyl Gwlad Belg.

Mae’r babell wedi’i hadeiladu o bren, drychau wedi’u torri, cynfas, gwydr plwm, a manylir arno mewn brocêd melfed. Mae pob un yn unigryw gyda’i enw, personoliaeth ac arddull ei hun. Dim ond llond llaw o’r pebyll arbennig a chwedlonol hyn sydd ar ôl yn y byd ac mae The Fortuna, sy’n eiddo i’r cwmni Iseldiraidd Van Rosmalen, yn un o’r rhai harddaf, yn gartref i rai o berfformwyr a cherddorion gorau’r byd.

WELSH OF THE WEST END

Ymunwch â Welsh of the West End am noson gartrefol o gerddoriaeth Nadoligaidd, gyda ffefrynnau theatr gerdd a chlasuron Nadolig.
Mae’r grŵp theatr gerdd Welsh of the West End, sydd wedi cael ei wylio dros 18 miliwn o weithiau ar-lein, wedi creu cynnwrf mawr, gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda’u fersiynau trawiadol o glasuron theatr gerdd.

Ar ôl perfformio mewn lleoliadau eiconig fel Neuadd Frenhinol Albert, Paladiwm Llundain, Sgwâr Trafalgar a Stadiwm Principality, aethant ymlaen i syfrdanu cynulleidfaoedd yn rhyngwladol drwy gyrraedd rownd gynderfynol fyw Britain’s Got Talent ITV.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.