Beth wyt ti'n edrych am?
Open Rehearsals with Boram Kim
Dyddiad(au)
01 Tach 2023
Amseroedd
18:00 - 19:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â ni am Ymarfer Agored yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru – cartref Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Dewch i godi cwr y llen a gweld sut mae dawns yn cael ei chreu wrth inni agor drysau’r ystafell ymarfer i’r cyhoedd.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Gyfoes Cenedlaethol Corea yn cydweithio’r hydref hwn i greu dau ddarn newydd a fydd yn cael eu perfformio gyda’i gilydd am y tro cyntaf fel sioe ddwbl o’r enw Wales Connection, yng Nghanolfan Gelfyddydau Seoul rhwng 24 a 26 Tachwedd 2023.
Mae’r sesiwn Ymarfer Agored hon yn gyfle arbennig ac unigryw i weld gwaith Boram Kim gyda CDCCymru cyn iddo fynd ar daith yn 2024.
Mae Boram Kim yn goreograffydd poblogaidd o Gorea, ac ef yw cyfarwyddwr artistig Cwmni Dawns Ambiguous.