Beth wyt ti'n edrych am?
Opera | Così Fan Tutte
Dyddiad(au)
24 Chwe 2024 - 08 Maw 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Beth mae cariad yn eich dysgu chi?
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eich cymryd chi yn ôl i’r ysgol gyda chynhyrchiad newydd sbon o opera gomig Mozart, Così fan tutte aka Yr Ysgol i Gariadon, wedi’i gyfarwyddo gan Max Hoehn (The Consul). Yn y stori hon am aeddfedu, sydd wedi’i gosod yn y 1970au cynnar, mae pedwar disgybl chweched dosbarth yn darganfod y gall disgyn mewn cariad fod yn anhygoel, yn lletchwith ac yn gymhleth.
Mae’r myfyrwyr yn cael gwers werthfawr am gariad, bywyd a rhyddid wrth i’w hathro eu cynnwys mewn arbrawf cyfrinachol. Gyda pheth o gerddoriaeth fwyaf hudolus Mozart yn gefndir, cânt eu herio i ailfeddwl am eu hunaniaeth eu hunain a’u perthnasau gyda’i gilydd wrth iddynt wynebu cyfres o sefyllfaoedd doniol wedi’u cynllunio i dwyllo.