Neidio i'r prif gynnwys

Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop

Dyddiad(au)

03 Mai 2023 - 07 Mai 2023

Lleoliad

Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Sgarmesau, gwrthdrawiadau ac ymrysonau hanesyddol. Mae cymaint i edrych ymlaen ato pan ddaw Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn 2023 i Gaerdydd o 3 tan 7 Mai. Dewch i weld cyffro olwyn-i-olwyn wrth i athletwyr gorau Ewrop roi popeth ar y lein i fod yn bencampwyr Ewrop ar un o lwyfannau chwaraeon enwocaf y byd.

Bydd wyth tîm gorau Ewrop yn mynd i’r cwrt yn adeilad eiconig Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, lle bydd cyfle i ennill lleoedd yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024 hefyd.

Bydd y bencampwriaeth hon yn rhoi’r profiad eithaf i athletwyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid, wrth greu gwaddol hefyd lle bydd mwy o bobl yn chwarae, yn gwirfoddoli ac yn cefnogi’r gamp wefreiddiol, llawn adrenalin hon Cymru.

Paratowch ar gyfer rygbi digyffelyb wrth i ni greu arena o fewn y stadiwm, gan osod cwrt ar ben y cae rygbi glaswelltog gwreiddiol. Bydd ein hathletwyr yn teimlo awyrgylch clyd yr arena gyda gwylwyr yn agos i’r cwrt, wrth brofi hefyd y wefr a geir trwy chwarae mewn lleoliad blaenllaw a chael defnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf y mae’n eu darparu.

Croeso i bawb gyda threfn tocynnau hygyrch

Am y tro cyntaf erioed, bydd Stadiwm Principality yn cael ei thrawsnewid yn stadiwm o fewn stadiwm, i greu awyrgylch arena ddwys ynghyd â gwefr cartref enwog rygbi Cymru.

Mae prisiau tocynnau dydd yn dechrau ar £10 i oedolion a gall plant dan 16 oed fwynhau’r cyffro am £1 yn unig. I gefnogwyr hynod frwd nad ydynt am golli munud o’r cyffro, mae bwndeli tocynnau aml-ddydd yn cynnig gwerth am arian penigamp. Mae tocynnau hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ar gael. Mae tocyn cydymaith am ddim hefyd ar gael i bob defnyddiwr cadair olwyn sy’n prynu tocyn hygyrch i’r digwyddiad.