Neidio i'r prif gynnwys

PETE TONG YN CYFLWYNO: CLASURON IBIZA GYDA’R GERDDORFA DREFTADAETH

Dyddiad(au)

08 Gorff 2022

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd y chwedlonol Pete Tong a’r Gerddorfa Dreftadaeth yn perfformio’n FYW yng Nghastell eiconig Caerdydd Ddydd Gwener 8 Gorffennaf 22.

Aeth cydweithrediad Pete Tong â’r Gerddorfa Dreftadaeth, dan arweiniad Jules Buckley, ymlaen i chwarae mewn arenas ledled y byd, gan gynnwys yr Hollywood Bowl a dwy noson a werthodd allan yn yr O2, ac esgor ar yr albwm Classic House, a werthodd dros 200,000 o gopïau a chyrraedd rhif un yn y gwledydd hyn, a’r dilyniant i’r albwm hwnnw, Pete Tong Ibiza Classics, sydd hyd yma wedi gwerthu dros 120,000 o gopïau.

Gall cefnogwyr dawns ddisgwyl ailddehongliadau clasurol o anthemau’r clybiau fel, Fatboy Slim – Right Here, Right Now, Faithless – Insomnia, Daft Punk – One More Time, Eric Prydz – Pjanoo a The Chemical Brothers – Galvanize.