Beth wyt ti'n edrych am?
Peter Pan
Dyddiad(au)
09 Rhag 2023 - 10 Rhag 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae addasiad drudfawr o stori boblogaidd J.M Barrie, Peter Pan, yn hedfan i Gaerdydd y Nadolig hwn, gan addo sbin ysblennydd ar antur glasurol oesol!
Mae’r Karma Chameleon ei hun, Boy George yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel Captain Hook yn y ffantasi hon yng ngwlad Neverland. Bydd y sioe’n dod â hudoliaeth Hollywood gyda hi, gyda début llwyfan Dorit Kemsley, sy’n chwarae’r fôr-forwyn. Mae’n adnabyddus ledled y byd o’r sioe deledu enwog, ‘Real Housewives Of Beverley Hills’.
Mae’r cast o hanner cant yn cynnwys dwsin o berfformwyr cirque, styntiau awyr rhyfeddol, brwydr enfawr lle bydd y gynulleidfa’n taflu peli canon at long Hook a dihangfa syfrdanol o danc dŵr cloëdig gan y seren gomedi addawol, Jordan Conway, sy’n chwarae rhan Peter Pan, ynghyd â chriw mawr o ddawnswyr Gwyddelig a’r Ucheldiroedd.
Mae setiau digidol animeiddiedig Fabulous yn ailddiffinio’r genre gyda phrofiad ymdrochol o hud a rhyfeddod a fydd yn siŵr o swyno hyd yn oed y cynulleidfaoedd mwyaf sinigaidd.