Beth wyt ti'n edrych am?
Piaf to Pop
Dyddiad(au)
26 Hyd 2023
Amseroedd
20:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ar ôl noson hynod lwyddiannus gyda’i sioe Piaf, mae’r gantores lwyddiannus Christine Bovill yn dychwelyd gyda’i sioe newydd, Piaf to Pop, oedd yn llwyddiant ysgubol a werthodd bob tocyn yng Ngŵyl Cyrion Caeredin 2022.
Yn y sioe mae’n teithio i’r chwedegau ac i’r broses o Americaneiddio cerddoriaeth Ffrainc: le yé-yé. Mewn cyfnod o newid diwylliannol mawr yn Ffrainc, fyddai celfyddyd uchel y chanson yn goroesi…?
Mae’r sioe newydd yma’n cynnig dathliad rhywiol a blasus o oes aur canu Ffrengig a sut yr esblygodd yn ystod y chwedegau chwyldroadol.
Gan ganu yn Ffrangeg a Saesneg, mae’n anrhydeddu nifer o sêr gan gynnwys Edith Piaf, Jacques Brel, Serge Gainsbourg a Francoise Hardy.