Beth wyt ti'n edrych am?
PULSE
Dyddiad(au)
09 Tach 2023 - 23 Tach 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dau ddarn o waith dawns corfforol gwefreiddiol fydd yn cyflymu curiad eich calon.
Mae Marcos Morau (a greodd Tundra) yn dychwelyd gyda’r Waltz atgofus, moethus a chwim.
Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig.
Tra bydd Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY) yn gwneud i chi eisiau codi a dawnsio gyda Say Something, gwledd weledol a sonig o symudiad a bîtbocsio, gan archwilio’r hyn mae’n ei olygu i ‘gynrychioli’, a’r disgwyliadau cynyddol i gael llais.
Ymunwch â CDCCymru am noson rymus o ddawns.
Rhan o NAWR, tymor 22/23 Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.