Neidio i'r prif gynnwys

RAMMSTEIN

Dyddiad(au)

30 Meh 2022

Amseroedd

19:00 - 23:00

Lleoliad

Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Rammstein yn cadarnhau’r dyddiad ar gyfer Taith Ewropeaidd wedi’i haildrefnu 2021!

Bydd Rammstein yn Stadiwm Principality, fel rhan o’u Taith Stadiwm Ewropeaidd fwyaf erioed!

Wedi’i threfnu’n wreiddiol ar gyfer 2020, bu’n rhaid canslo’r daith oherwydd Covid-19 ond mae pob sioe ar y daith wedi’i haildrefnu a bydd pob tocyn yn parhau’n ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.

Bydd y sioe yn nodi ail ymddangosiad y band yng Nghymru, yn dilyn eu perfformiad yn Arena Ryngwladol Caerdydd (Arena Motorpoint erbyn hyn) yn 2005.

Mae tocynnau ar gyfer sioe Caerdydd ar gael drwy’r allfeydd awdurdodedig canlynol yn unig: EventimAXSTicketmasterBig Green Coach.

Rydym yn cynghori’r holl ddeiliaid tocynnau presennol i gysylltu â’u darparwr tocynnau i gael rhagor o wybodaeth neu unrhyw ymholiadau ynghylch dyddiad y sioe wedi’i haildrefnu.