Beth wyt ti'n edrych am?
Rhod Gilbert | Hoof Cancer
Dyddiad(au)
01 Hyd 2023
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Velindre Fundraising a Noddwr Felindre Rhod Gilbert yn falch i gyhoeddi’r gig Hoof Cancer Right Where It Hurts diweddaraf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 1 Hydref 2023.
Dyma fydd y trydydd gig Hoof Cancer mae Rhod wedi’i gyflwyno fel Noddwr Felindre. Bydd y digwyddiad yn codi arian ar gyfer taith gerdded Felindre nesaf Rhod a fydd yn cael ei chynnal ym Mynyddoedd Atlas Morocco o 5 Hydref. Dyma fydd y chweched daith gerdded ar gyfer Felindre mae Rhod wedi’i harwain, yn dilyn Taith Gerdded Kilimanjaro yn 2013, Patagonia yn 2015, Periw yn 2017, Nepal yn 2019 a Chiwba yn 2022.
Bydd y daith gerdded i Morocco yn arbennig o deimladwy am mai dyma fydd y daith gyntaf mae Rhod wedi’i harwain ers ei ddiagnosis o ganser ym mis Mai 2022.