Neidio i'r prif gynnwys

Rock of Ages

Dyddiad(au)

17 Mai 2022 - 21 Mai 2022

Lleoliad

Theatr Newydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3LN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r sioe gerdd boblogaidd yn ôl, ac mae’r parti’n mynd i fod yn FWY nag erioed!

Mae ROCK OF AGES yn gomedi cerddorol gwirioneddol ddoniol gyda 25 o ANTHEMAU ROC CLASUROL, gan gynnwys Don’t Stop Believin’, We Built This City, The Final Countdown, Wanted Dead or Alive, Here I Go Again, Can’t Fight this Feeling ac I Want To Know What Love Is, wedi’u perfformio gan fand byw ANHYGOEL.

Yn cynnwys enillydd X Factor Matt Terry fel Rock God Stacee Jaxx a seren Coronation Street Kevin Kennedy fel Dennis Dupree.

Ymgollwch i ddinas a chyfnod lle roedd BREUDDWYDION mor FAWR â’r GWALLT, ac ydyn, maen nhw’n gallu dod yn wir!

A’r sioe bellach yn llwyddiant byd-eang, gyda thymhorau ar Broadway, yn y West End yn Llundain ac yn Las Vegas a ffilm Hollywood llawn sêr, rydym yn addo’r PARTI MWYAF YN Y DDINAS!

ARCHEBWCH NAWR A BYDDWCH YN BAROD I ROCIO!