Neidio i'r prif gynnwys

Sam Morrison: Sugar Daddy

Dyddiad(au)

20 Hyd 2023

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Taith feiddgar o gariad, colled, diabetes ac ymosodiadau gan wylanod.

Sioe lwyddiannus Off Broadway Sam Morrison yw “the best new show in New York right now” (Daily Beast). Yn UDA cafodd y sioe ei hymestyn deirgwaith a chafodd enwebiad Outer Critics Circle.

Mae Sugar Daddy yn dilyn Sam wrth iddo gwrdd â’i ddiweddar bartner mewn gŵyl eirth hoyw a dod o hyd i obaith a digrifwch mewn galar ar ôl iddo farw.

Sam Morrison, a gafodd ei enwi’n Wyneb Newydd yng Ngŵyl Just For Laughs 2023 ac sydd wedi ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf yn ddiweddar ar Late Night with Seth Myers, yw un o sêr datblygol mwyaf y byd comedi.