Beth wyt ti'n edrych am?
Shrek the Musical
Dyddiad(au)
20 Tach 2023 - 25 Tach 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â’r arwr annhebygol Shrek a’i bartner ffyddlon Donkey, wrth iddynt gychwyn ar antur gerddorol fawr a disglair!
Yn seiliedig ar y ffilm DreamWorks a enillodd Oscar, mae’r sioe Broadway lwyddiannus Shrek the Musical, yn gomedi cerddorol llawn hwyl gyda chast o gymeriadau bywiog a sgôr ‘shrek-taciwlar’.
Gan gynnwys yr annwyl Dywysoges Fiona, yr Arglwydd Farquaad drwg, llu o gymeriadau hudolus o straeon tylwyth teg a chaneuon gwych gan gynnwys yr hit lwyddiannus I’m a Believer, mae Shrek the Musical yn “swae gerddorol i blant mawr a phlant bach fel ei gilydd”.
Dewch i ymuno â’r antur wrth i Shrek a Donkey ymdrechu i gwblhau eu taith, gan ddod o hyd i gyfeillgarwch annisgwyl a rhamant syfrdanol ar hyd y ffordd.
Noson allan berffaith i’r ifanc, a’r ifanc eu hysbryd, mae sioe arobryn Shrek the Musical yn sicr o blesio pawb o bob oed a bydd yn siŵr o’ch cael chi ar eich traed ac yn dawnsio ac yn chwerthin yr holl ffordd adref.