Neidio i'r prif gynnwys

Cyfres Biano Rhyngwladol Steinway: Anna Fedorova

Dyddiad(au)

26 Meh 2022

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ieir yn dawnsio, penglogau’n tywynnu, a holl glychau’r hen Rwsia… Mae Tableau d’une exposition [Lluniau Mewn Arddangosfa] Mussorgsky yn un o’r gweithiau cerddorfaol mawr, ond hyd nes i chi glywed y fersiwn biano wreiddiol, dydych chi ddim wir wedi ei chlywed o gwbl! A phwy well i ddod â’r gwaith yn fyw nag Anna Fedorova, y cerddor penigamp o’r Wcrain sy’n dweud ei bod yn hoffi “paentio gyda cherddoriaeth”?

Scriabin – Sonata i’r Piano, Op.68 Rhif 9

Prokofiev – Suggestion Diabolique allan o Bedwar darn i Biano, Op.4

Ravel – Gaspard de la Nuit

Mussorgsky – Lluniau mewn Arddangosfa