Neidio i'r prif gynnwys

Teithiau Blasu Caerdydd

29 Chwe 2020 - 21 Tach 2020

10:30 - 14:30

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Y ffordd orau o ddarganfod Caerdydd! Mae Taith Flasu Caerdydd yn eich tywys o gwmpas y ddinas, gan ymweld â chynhyrchwyr bwyd arbenigol, caffis, manwerthwyr a marchnad dan do Caerdydd. Ar y fwydlen mae pice ar y maen, seidr a chwrw lleol, bara lawr a chocos, cawsiau Cymreig a mwy.

Bydd ein tywyswyr Loving Welsh Food lleol yn rhannu eu straeon gyda chi ac yn cynnig taith unigryw a phersonol o’r ddinas, ei hanes a’i phobl. Ar hyd y daith, byddwn yn pasio parciau hardd, adeiladau mawreddog a thirnodau allweddol gan gynnwys Castell Caerdydd a Stadiwm Principality.