Beth wyt ti'n edrych am?
The Alternative Cabaret: 00s Pop Queens
Dyddiad(au)
06 Hyd 2023
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Caneuon cyfarwydd, steil anghyfarwydd!
Noson cabaret sydd yn arddangos y doniau cerddorol a lleisiol gorau. Fe wnawn ni ddangos ochr newydd i’ch hoff ganeuon.
Thema’r mis yma yw “Breninesau Pop y ‘00au” a gallwch ddisgwyl caneuon Beyoncé, Britney, Christina ac Adele mewn steil gwahanol i’r arfer. Efallai clywch fersiwn rhywiol ar y sacsoffon o Single Ladies, unawd gitâr roc o Bad Romance, neu leisiau melys yn canu’r gân Since U Been Gone fel côr.
Rydym yn falch iawn ein bod yn perfformio’n hollol fyw. Dim traciau sain, dim autotune. Dim ond ein hofferynnau a’n lleisiau.
Mae ein sioeau Cabaret Amgen yn hamddenol – bydd y bar ar agor, a bydd cyfle i sgwrsio â’n perfformwyr.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i’n noson amgen o gerddoriaeth cabaret byw!